Through the memories the landscape holds of us, seen in the smooth polished rock and the path carved into the earth, we are connected to those that have travelled this way before. We leave our own faint mark upon this landscape. Building with all others we imperceptibly create a collective visual for those who follow. The landscape unites us with those we cannot know. It builds bridges between time and place and we endure there with it.
Each of these images was hand-crafted through the use of dry-plate glass negatives and a pinhole lens. The unpredictability of these methods many try to control or avoid were embraced as stunning visual and emotional aids, showcasing photography as an object that is integral to the concept of this collection
***
Drwy'r atgofion amdanom sydd ar gadw yng nghof y dirwedd, sydd i’w gweld yn y graig gaboledig lefn a'r llwybr a gerfiwyd yn y ddaear, cawn ein cysylltu â'r rhai sydd wedi tramwyo’r ffordd hon o'r blaen. Gadawn ein marc egwan ein hunain ar y dirwedd hon. Awn ati gyda phawb arall, er yn ddiarwybod i ni ein hunain, i greu rhywbeth gweledol i'r rhai sy'n dilyn. Mae'r dirwedd yn ein huno â’r rhai na allwn eu hadnabod. Mae'n adeiladu pontydd rhwng amser a lle, ac yno yr ydym ni’n parhau i fod.
Saernïwyd pob un o'r delweddau hyn â llaw drwy ddefnyddio negatifau gwydr plât sych a lens twll pìn. Er bod llawer yn ceisio rheoli natur anwadal yr hen ddulliau hyn, neu hyd yn oed eu hosgoi, yma fe gawsant eu cofleidio fel cymhorthion gweledol ac emosiynol syfrdanol, gan roi llwyfan i ffotograffiaeth fel rhywbeth sy'n rhan annatod o gysyniad y casgliad hwn.